Gweithio gyda ni.

Trwy brosiectau ymchwil cydweithredol pwrpasol rydym yn cefnogi busnesau sy'n ceisio defnyddio technoleg i greu cynhyrchion, datrysiadau a gwasanaethau newydd.

Ein Proses 3 Cham

Yn CEMET rydym yn defnyddio proses ymchwil a datblygu cydweithredol tri cham i drawsnewid eich syniad arloesol yn gynnyrch o ansawdd uchel.

Mae’r broses yn sicrhau eich bod yn y sefyllfa orau i fanteisio ar y cydweithio, gyda’r nod o ysgogi twf busnes.

Rydym yn darparu cyfres lawn o gefnogaeth o ddadansoddi cysyniad, diagnostig busnes, mapio ffordd cynnyrch, ymchwil a datblygu cydweithredol a'r llwybr i'r farchnad.

  1. Diagnosteg Busnes

  • Bydd CEMET yn eich cefnogi i ddatblygu map ffordd cynnyrch, gan sicrhau bod eich busnes mewn sefyllfa briodol i gynnal gweithgaredd ymchwil a datblygu yn ystod ein cydweithrediad ac ar ôl ymgysylltu. Bydd CEMET yn eich cynorthwyo i sicrhau bod cynllun cynaliadwy, a diffinio nodau a thargedau i gefnogi eich nodau ymchwil a datblygu hirdymor.

    Mae CEMET yn gartref i dîm Ymchwil a Datblygu pwrpasol gydag arbenigedd mewn Dysgu Peiriannau, Rhithwir, Realiti Estynedig a Chymysg, Delweddu Data, Rhyngrwyd Pethau, M-Health a llawer mwy o dechnolegau sy'n dod i'r amlwg a thechnolegau galluogi.

2. Ymchwil a Datblygu Cydweithredol

  • Bydd CEMET yn eich cefnogi i ffurfioli amcanion a chwmpas y prosiect, gan sicrhau bod ffocws i'r gweithgaredd Ymchwil a Datblygu arfaethedig a bod amser yn cael ei ddefnyddio'n effeithiol. Gan ddefnyddio methodoleg rheoli prosiect Scrum, byddwn yn cychwyn ar daith gydweithredol gyda chi, gan feithrin datblygiad cynnyrch ailadroddus tra'n sicrhau llif parhaus o gyfnewid gwybodaeth.

    P'un a yw'ch cynnyrch yn brawf o gysyniad, yn brototeip, yn gynnyrch hyfyw lleiaf, neu'n barod i'r farchnad, gallwn eich cynorthwyo i fanteisio ar ystod eang o dechnolegau newydd.

3. Llwybr i'r Farchnad

  • Drwy sicrhau bod y prosesau ymchwil a datblygu, trosglwyddo gwybodaeth a mapio ffyrdd wedi’u cyflawni, byddwch mewn sefyllfa wych i fanteisio ar eich cynnyrch a chreu effaith gynaliadwy o fewn economi Cymru.

    Bydd tîm CEMET yn gweithio gyda chi i greu map ffordd cynnyrch tymor hwy ac yn eich cyflwyno'n ffurfiol i fentrau, busnesau a chyfleoedd ariannu ychwanegol a fydd yn eich galluogi i ddatblygu eich cynnyrch ymhellach.

Cysylltwch.