Kris Oakley

Uwch Weinyddwr

Mae Kris wedi byw yn ei thref enedigol, Pontypridd, y rhan fwyaf o’i hoes ar wahân i gyfnod o 5 mlynedd yn byw yn Saudia Arabia. Mae hi'n siarad Cymraeg ar ôl mynychu'r ysgol Gymraeg gyntaf a agorwyd yn ardal Pontypridd.

Mae gan Kris 2 o blant sydd wedi tyfu i fyny. Mae hi'n hoffi cadw'n heini yn ei hamser hamdden ac mae'n aelod o'r gampfa leol. Mae Kris yn ymddiddori mewn pob math o gerddoriaeth ac mae ei hiliogaeth deuluol yn datgan ei bod yn perthyn o bell i’r cyfansoddwr a’r actor Cymreig Ivor Novello.

Mae Kris wedi gweithio ym maes Gweinyddu am y rhan fwyaf o’i bywyd gwaith mewn Llywodraeth Leol ac yn arbennig yn y Sector Addysg gan weithio gydag Addysg Gynradd ac Uwchradd. Yn fwy diweddar mae hi wedi gweithio yn Llywodraeth Cymru ac yn Adran Gyllid Prifysgol De Cymru. Ei rôl o fewn tîm CEMET yw gweinyddu'r prosiect, sicrhau y glynir at brosesau a gweithdrefnau a dyma'r pwynt cyswllt cyntaf i bob cleient.