Gareth Lloyd

Dylunydd UX

Gyda dros 10 mlynedd o brofiad proffesiynol fel dylunydd UX/UI, mae Gareth yn rhan annatod o CEMET, gan arwain ymchwil dylunio a defnyddwyr ar draws pob prosiect.

Graddiodd Gareth gydag MA mewn Animeiddio ym Mhrifysgol De Cymru. Fel myfyriwr graddedig, cafodd ei gyflogi’n gyflym gan asiantaeth sefydledig yn Llundain fel Dylunydd Motion yn gweithio ar VFX arloesol gyda ffocws cryf ar ddylunio rhyngwyneb cyn symud ymlaen i rôl Pennaeth UX mewn cwmni technolegol arloesol newydd yng Nghaerdydd. Gyda chyfoeth o wybodaeth mewn UI/UX a gwyddor ymddygiad mae Gareth bellach yn goruchwylio pob agwedd ar ddylunio ar draws prosiectau niferus CEMET. Mae Gareth yn ffotograffydd bywyd gwyllt angerddol ac yn fiolegydd amatur gyda diddordeb brwd mewn cymdeithaseg, sŵoleg, mycoleg a botaneg. Yn ei amser hamdden mae ei ddiddordebau eraill yn cynnwys saffaris, eirafyrddio a darllen athroniaeth.

Edrychwch ar waith diweddaraf Gareth