Evangelene Jones

Cydlynydd Cyhoeddusrwydd a Digwyddiadau

Mae Evangelene yn hoff o bopeth creadigol ac yn ffotograffydd amatur. Pan nad yw'n treulio amser gyda'i theulu, mae hi wrth ei bodd yn teithio ac archwilio lleoedd newydd.

Dechreuodd Evie ei gyrfa mewn rheoli lletygarwch ar gyfer un o fanwerthwyr tafarndai mwyaf y DU. Ers hynny, wedi gweithio mewn amrywiaeth o rolau, gan gynnwys digwyddiadau ar gyfer Cancer Research UK, codi arian a digwyddiadau ar gyfer elusen plant, a’r GIG.

Ar ôl cwblhau gradd BaHons Rheoli Digwyddiadau ym Mhrifysgol De Cymru, darganfu Evie angerdd am addysg a datblygiad personol. Felly, aeth yn ôl i'r brifysgol a graddio yn 2021 gydag MBA o'r radd flaenaf yn arbenigo mewn Marchnata.

O ran marchnata, nid yw'n mwynhau dim mwy na defnyddio ei chreadigrwydd a'i gwybodaeth i arbrofi gyda chysyniadau marchnata newydd a rhai sy'n dod i'r amlwg.

Fel cydlynydd cyhoeddusrwydd a digwyddiadau yma yn CEMET, mae Evie yn hyrwyddo'r cynhyrchion gwych yr ydym yn cydweithio arnynt gyda'n cleientiaid trwy sianeli marchnata digidol a thraddodiadol. Mae hi hefyd yn gyfrifol am bortffolio digwyddiadau CEMET a sicrhau bod gwasanaethau CEMET yn cael eu hysbysebu i’r bobl iawn.

Cysylltwch ar gyfer unrhyw ymholiadau marchnata, cyhoeddusrwydd neu ddigwyddiad: